Rhyfeddod oedd, rhyfeddod yw!
Ai'r unig ddyrchafedig Dduw,
Gwir wrthrych mawl
seraffiaid gwych,
A welaf draw yn waelaf drych?
Rhyfeddol iawn i'r nefol lu
Oedd gweled eu Creawdwr cu
Yn gwisgo natur wan ei rhyw,
Yn waelaf ddyn, - anwylaf Dduw.
Os rhyfedd gan angylion nef
Oedd gweld ei bur ddynoldeb ef,
Mae myrdd o ryfeddodau mwy
Yn rhinwedd glān ei farwol glwy'!
Ni all angylion nefoedd lon,
Cerubiaid a seraffiaid hon,
Ac epil Adda oll yn un,
Fynegi doniau
Mab y Dyn.
Uwchlaw gofidiau byd o boen,
Fe ddwg y bendigedig Oen
Ei brynedigion oll, ryw ddydd,
O bob rhyw loes,
i'r einioes rydd.
O! am y ddedwydd, ddedwydd awr
Pan ddyddio tragwyddoldeb mawr;
Cawn wledda fyth ar rin ei glwy',
A dechrau mawl
heb ddiwedd mwy!
Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-1850
[Mesur: MH 8888] gwelir: O'r nefoedd daeth ar fore clir Rhyfeddol iawn i'r nefol lu |
A wonder it was, a wonder it is!
Is it the only, exalted God,
The true object of the praise
of brilliant seraphim,
I see yonder as the poorest sight?
Very wonderful to the heavenly host
Was seeing their dear Creator
Wearing a weak sort of nature,
As poorest man, - dearest God.
If a wonder by the angels of heaven
Was seeing his pure humanity,
There are a myriad of wonders more
In the holy merit of his mortal wound!
Unable are the angels of cheerful heaven,
These cherubim and seraphim,
And the descendants of Adam all as one,
To express the accomplishments
of the Son of Man.
Above world griefs and pain,
The blessed Lamb will lead
All his redeemed, some day,
From every kind of anguish,
to the free life.
Oh, for the happy, happy hour,
When great eternity becomes day!
We will get to feast forever
on the merit of his wound,
And begin praise with no more ending!
tr. 2015 Richard B Gillion
|
|